Lleoliad:
Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 23 Tachwedd 2017
Amser: 13.05 - 14.30
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) Ronnie Alexander Trevor Reaney (drwy gyfrwng telegynhadledd) Michael Redhouse (drwy gyfrwng telegynhadledd) |
Swyddogion: |
Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol Rebecca Hardwicke, Pennaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau Carys Rees, Partner Busnes Adnoddau Dynol yr Aelodau |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod. Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r Bwrdd am gytuno i gynnal y cyfarfod drwy gyfrwng telegynhadledd ac am ail-drefnu ei fusnes yng ngoleuni’r digwyddiadau trasig ar 7 Tachwedd.
1.2Cafodd y Cadeirydd ymddiheuriadau gan Jane Roberts nad oedd yn gallu bod yn y cyfarfod ar fyr rybudd oherwydd amhariad teithio ac felly nid oedd yn gallu cymryd rhan drwy delegynhadledd. Rhoddodd Jane sylwadau ar bob eitem cyn y cyfarfod.
1.3 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref.
1.4 Bu’r Bwrdd yn cydymdeimlo â theulu, ffrindiau a chydweithwyr Carl Sargeant, y cyn Aelod Cynulliad, yn dilyn eu colled. Diolchodd y Bwrdd i’r canlynol:
- y tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau am y gefnogaeth a’r cyngor y maent yn parhau i’w darparu i deulu a Staff Cymorth Carl; a’r
- ysgrifenyddiaeth am ddiweddaru’r Bwrdd am y materion sy’n codi.
1.5Nododd y Bwrdd y darpariaethau ar gyfer dirwyn i ben swyddfa Carl Sargent.
1.6Nododd y Bwrdd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2018 - 19, a oedd yn cynnwys dau argymhelliad o ran effaith tanwariant y Bwrdd ar gyllideb y Comisiwn.
1.7 Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i oblygiadau ariannol ail-wampio’r Cabinet yn ddiweddar ar:
- y lwfans ar gyfer pleidiau gwleidyddol yng ngoleuni’r darpariaethau o fewn y Penderfyniad; a
- y gyllideb gyffredinol yng ngoleuni creu dwy swydd Weinidogol newydd.
1.8 Nododd y Bwrdd ddyddiadau ei gyfarfodydd a dyddiadau posibl cyfarfodydd y Grwpiau Cynrychiolwyr.
2.1.Cytunodd y Bwrdd â’r datganiad gan y Llywydd, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ac arweinwyr y grwpiau plaid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru nad oes lle i unrhyw ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad.
2.2. Nododd y Bwrdd ymrwymiad Comisiwn y Cynulliad i weithio gyda’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad i ddatblygu Polisi Parch ac Urddas.
2.3. Ar ôl cwblhau’r gwaith hwn, bydd y Bwrdd yn ystyried a oes angen iddo ymgymryd ag unrhyw waith pellach i gryfhau’r darpariaethau ar gyfer Staff Cymorth ar gyfer ymdrin ag unrhyw gwynion rhwng aelodau staff, gan gynnwys yr un safonau tegwch, trylwyredd a chefnogaeth fel mewn achosion sy’n ymwneud ag Aelodau.
3.1Nododd y Bwrdd y flaenraglen waith ddiwygiedig ar gyfer yr adolygiad.
3.2Ystyriodd y Bwrdd a chytunodd ar y cwestiynau drafft i’w defnyddio yn ystod y cyfweliadau un-i-un gydag Aelodau a Staff Cymorth i lywio’r adolygiad. Nododd y Bwrdd y byddai’r rhai a wahoddwyd i gyfweliad yn cynrychioli demograffeg Aelodau a Staff Cymorth yn fras.
3.3Cytunodd y Bwrdd y dylai’r cwestiynau ar gyfer y cyfweliad hefyd ffurfio arolwg a fyddai’n agored i’r holl Aelodau a’u Staff Cymorth eu cwblhau. Nododd y Bwrdd y dylai’r arolwg fod ar gael yn electronig ac mewn copi caled.
3.4Cytunodd y Bwrdd y dylai’r cwestiynau ar gyfer y cyfweliad a’r arolwg gael eu treialu gyda’r Grwpiau Cynrychiolwyr.
3.5Cytunodd y Bwrdd i gynnal digwyddiad gwybodaeth dros dro ar gyfer Staff Cymorth i drafod yr adolygiad.
Camau gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i:
- baratoi fersiynau terfynol o sgript y cyfweliad a’r arolwg, a’u hail-ddosbarthu’n electronig i’r Bwrdd i’w hadolygu;
- treialu’r cwestiynau gyda’r Grwpiau Cynrychiolwyr;
- lansio’r arolwg yn gynnar ym mis Rhagfyr;
- nodi ffyrdd arloesol o annog Aelodau a Staff Cymorth i gwblhau’r arolwg;
- trefnu i’r cyfweliadau ddigwydd ym mis Ionawr; a
- threfnu digwyddiad gwybodaeth dros dro ar gyfer Staff Cymorth ym mis Ionawr i drafod yr adolygiad.